Annwyl Aelodau,

cc Staff Grwpiau a Staff Cymorth

 

CRYNODEB O GYFARFOD Y BWRDD TALIADAU A GYNHALIWYD AR 13-14 MAWRTH 2024

Cynhaliwyd cyfarfod o Fwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd ddydd Mercher a dydd Iau 13-14 Mawrth. 

Mae’r llythyr hwn yn rhoi crynodeb o brif drafodaethau a phenderfyniadau’r Bwrdd. Mae gwybodaeth am gyfarfodydd blaenorol y Bwrdd ar gael yma.

Cyfarfu'r Bwrdd hefyd â sawl Aelod yn ystod sesiynau Galw Heibio yn y Cwrt a chafodd drafodaethau defnyddiol a oedd yn llawn gwybodaeth gyda Grŵp Cynrychioli’r Aelodau a Grŵp Cynrychioli’r Staff ar 13 Mawrth. Hoffwn ddiolch i'r Aelodau, y staff a chynrychiolwyr yr undebau am roi o’u hamser i gwrdd â'r Bwrdd a darparu gwybodaeth a safbwyntiau gwerthfawr sy'n helpu i lywio ein gwaith parhaus cyn y Seithfed Senedd.

 

Adolygiad Blynyddol o’r Penderfyniad ar Gyflogau a Lwfansau’r Aelodau ar gyfer 2024/25

Cytunodd y Bwrdd ar ei Benderfyniad ar gyfer 2024-25, gan ystyried yr adborth a gafwyd drwy'r broses ymgynghori. Cytunodd y Bwrdd ar newidiadau a gaiff eu hadlewyrchu yn yr ymgynghoriad (gan gynnwys y cynnydd yn y rhan fwyaf o gostau busnes ar gyfradd Mynegai Prisiau Defnyddwyr mis Ionawr o 4%), gyda dau eithriad: newid y geiriad ynghylch talu hawliadau a gyflwynir ar ôl tri mis a chadw'r 'lwfans gweithio gartref'.

Bydd manylion llawnach a rhesymeg y Bwrdd yn cael eu cynnwys mewn llythyr Penderfyniad a gaiff ei ddosbarthu i'r holl Aelodau a'i gyhoeddi ochr yn ochr â Phenderfyniad diwygiedig a osodir erbyn diwedd mis Mawrth. Bydd y Bwrdd hefyd yn cyhoeddi fersiwn o'r Penderfyniad, gyda newidiadau wedi’u tracio ynghyd â thabl o Gostau Busnes yr Aelodau ar y fewnrwyd at ddibenion eglurder ac i gynorthwyo tryloywder.

 

Cynllunio ac Amserlennu Adolygiad Thematig

Trafododd y Bwrdd themâu sy'n dod i'r amlwg sy'n llywio ei waith cyn llunio Penderfyniad ar gyfer y Seithfed Senedd. Cafodd y themâu hyn eu llywio drwy gasglu tystiolaeth ac ymgysylltu â'r Aelodau, ac maent yn cynnwys:

 

              y cydbwysedd rhwng hyblygrwydd a rhagnodi yn y Penderfyniad ar gyfer y Seithfed Senedd, gan sicrhau digon o ddisgresiwn a hyblygrwydd i Aelodau a darparu fframwaith cymesur o atebolrwydd a thryloywder;

              y cydbwysedd o ran cefnogaeth unigol ac ar y cyd i Aelodau yn y Senedd nesaf; a’r

              cydbwysedd a'r berthynas rhwng adnoddau a chymorth a ddarperir i'r Aelodau drwy'r Penderfyniad a chan Gomisiwn y Senedd.

Bu'r Bwrdd hefyd yn adolygu amserlennu cyn y bwriedir cyhoeddi Penderfyniad ar gyfer y Seithfed Senedd yn haf 2025, gan nodi sawl her a chyfyngiad, gan gynnwys diwygio'r Senedd ac amserlen cyllideb y Comisiwn.

 

Adolygiad o Dâl a Graddio Staff

Cafodd y Bwrdd gyflwyniad ac adroddiad drafft gan Beamans, y cwmni ymgynghori sydd wedi bod yn cynnal adolygiad Cam 1 o dâl a graddio staff yr Aelodau. Diolch i'r holl Aelodau a staff grwpiau a staff cymorth a gyfrannodd at y gwaith hwn ac a gyfranogodd drwy gyfweliadau, grwpiau ffocws neu gwblhau'r arolygon ar-lein.   

Mae adroddiad drafft Beamans yn darparu adolygiad o'r fframwaith presennol ar gyfer tâl a graddio staff ac yn amlinellu opsiynau ar gyfer gwelliannau fel rhan o Gam 2 arfaethedig; nid yw'n cynnwys meincnodi tâl, a fyddai'n rhan o Gam 2. Yn ei gyfarfod ym mis Mai 2024, bydd y Bwrdd yn trafod yr adroddiad, ei ymateb a’r camau nesaf; yna, caiff yr adroddiad ac ymateb y Bwrdd eu cyhoeddi a'u rhoi i'r Aelodau a staff cymorth.

 

Adolygiad o Daliadau a Chymorth Personol i’r Aelodau

Cwblhaodd y Bwrdd y Cylch Gorchwyl ar gyfer adolygiad thematig o Daliadau a Chymorth Personol i’r Aelodau (ar gael yma) yn dilyn yr ymgynghoriad diweddar a hoffwn ddiolch i'r Aelodau am eu safbwyntiau yn ystod trafodaethau diweddar.

Trafododd y Bwrdd fanyleb amlinellol cyn comisiynu asesiad allanol, annibynnol o werthusiad o swyddi a meincnodi tâl i lywio penderfyniadau'r Bwrdd wrth bennu cyflogau'r Aelodau ar gyfer y Seithfed Senedd. Bydd yr adolygiad allanol hwn yn ystyried rolau a chyfrifoldebau Aelodau a deiliaid swyddi ychwanegol, sut y maent wedi newid ac y gallant newid ar gyfer y Seithfed Senedd, yn ogystal ag ymarfer meincnodi tâl.

Rhagwelir y caiff y gwaith hwn ei gaffael yn ystod y misoedd nesaf gyda'r gwaith yn cael ei wneud yn ystod yr haf a dechrau'r hydref. Bydd y broses hon o gasglu tystiolaeth yn golygu ymgysylltu, cynnwys a chynnal cyfweliadau ag Aelodau.

Felly, bydd y Bwrdd yn darparu rhagor o wybodaeth yn fuan ac mae’n edrych ymlaen at holi barn yr Aelodau yn ystod y misoedd nesaf.

 

Adolygiad Thematig o Ffyrdd o Weithio

Trafododd y Bwrdd waith ymchwil i nodweddion etholaethau aml-aelod mewn seneddau eraill a chrynodeb o sylwadau a wnaed i'r Bwrdd gan Aelodau a staff ar ddarpariaethau'r Gronfa Costau Swyddfa a Chysylltu ag Etholwyr (OCLF), gan gynnwys y safbwyntiau gwerthfawr a ddarparwyd i Syr David Hanson a minnau yn ystod ein hymweliadau â sawl swyddfa etholaeth yn ystod yr hydref ac yn ystod yr wythnosau diwethaf.

Mae dadansoddiad data pellach o batrymau gwariant ar swyddfa, cyfathrebu ac ymgysylltu yn cael ei gynnal a bydd y Bwrdd yn dechrau llunio opsiynau yn ystod y misoedd nesaf, a fydd yn destun ymgynghoriad maes o law. Caiff y gwaith hwn ei lywio gan ddeialog wedi’i threfnu rhwng y Bwrdd a Chomisiwn y Senedd oherwydd y diddordeb a rennir a gan fod y ddau’n galluogi Aelodau i ddefnyddio elfennau o adnoddau neu gymorth mewn cysylltiad â swyddfeydd etholaeth.

 

Cyfarfodydd Nesaf y Bwrdd

Bydd y Bwrdd yn cyfarfod nesaf ar 15-16 Mai ac, yn ôl yr arfer, bydd yn croesawu cyfleoedd i gwrdd ag Aelodau a chael eu barn mewn cyfarfodydd anffurfiol neu sesiynau Galw Heibio o amgylch y cyfarfodydd hyn.

Yn y cyfamser, os hoffech godi unrhyw fater gyda mi neu’r Bwrdd, neu os hoffech drafod unrhyw fater ymhellach, cofiwch gysylltu drwy anfon neges e-bost at taliadau@senedd.cymru.

 

 

Yn gywir,

A picture containing font, black, graphics, typography  Description automatically generated

Dr Elizabeth Haywood

Cadeirydd Bwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd

Croesewir gohebiaeth yn Gymraeg neu Saesneg.

We welcome correspondence in Welsh or English